Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol


Lleoliad:

Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a

fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Medi 2021

Amser: 09.31 - 13.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
12423


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Russell George AS (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AS

Gareth Davies AS

Mike Hedges AS

Jack Sargeant AS

Joyce Watson AS

Tystion:

Dr Frank Atherton, Llywodraeth Cymru

Dr Rob Orford, Llywodraeth Cymru

Fliss Bennee, Llywodraeth Cymru

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru

Albert Heaney, Llywodraeth Cymru

Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Helen Finlayson (Clerc)

Claire Morris (Ail Glerc)

Lowri Jones (Dirprwy Glerc)

Amy Clifton (Ymchwilydd)

Sarah Hatherley (Ymchwilydd)

Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

Dr Paul Worthington (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

2       COVID-19: y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar gyfer Iechyd a Chell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd a Chell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru.

</AI2>

<AI3>

3       Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu mwy o fanylion ynghylch sut mae unrhyw anghenion gofal cymdeithasol sydd gan bobl sydd wedi adfer ar ôl COVID hir, neu sydd wrthi’n adfer, yn cael eu hystyried, eu hasesu a'u diwallu gan fyrddau iechyd lleol a byrddau partneriaeth rhanbarthol.

3.3 Cytunodd Dr Andrew Goodall i ddarparu data ar gyfran yr ymgynghoriadau meddygon teulu sy’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb ac o bell, gan gynnwys unrhyw amrywiant rhwng byrddau iechyd a rhwng meddygfeydd ledled Cymru.

3.4 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda manylion am nifer y plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n cyrchu gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol ac arbenigol, ac amseroedd aros am asesiad ac ymyrraeth therapiwtig.

3.5 Cytunodd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru i gadarnhau a yw unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru ar hyn o bryd yn gwario llai na'i asesiad gwariant safonol ar ofal cymdeithasol.

</AI3>

<AI4>

4       Papurau i’w nodi

</AI4>

<AI5>

4.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at bwyllgorau’r Senedd ynghylch Craffu Ariannol ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23

4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI5>

<AI6>

4.2   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeiryddion Pwyllgorau ynghylch blaenoriaethau o ran plant a phobl ifanc ar gyfer y Chweched Senedd

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI6>

<AI7>

4.3   Llythyr gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynghylch ei phroses o ran Gwasanaeth sy’n creu Pryder ar gyfer cyrff y GIG yng Nghymru

4.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI7>

<AI8>

4.4   Ymateb gan Lywodraeth Cymru i Adroddiad Gwaddol Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd

4.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

</AI8>

<AI9>

4.5   Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd ynghylch y prif themâu a ddaeth i'r amlwg yn ystod cam olaf ymchwiliad y Pwyllgor blaenorol i effaith y pandemig COVID-19, a'r ymateb iddo, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

4.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI9>

<AI10>

4.6   Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y prif themâu a ddaeth i'r amlwg yn ystod cam olaf ymchwiliad y Pwyllgor blaenorol i effaith y pandemig COVID-19, a'r ymateb iddo, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

4.6 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

</AI10>

<AI11>

4.7   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at bwyllgorau'r Senedd ynghylch gweithio ar y cyd yn y Chweched Senedd

4.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI11>

<AI12>

4.8   Llythyr gan Altaf Hussain AS at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer Pobl Ddall (RNIB) Cymru

4.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI12>

<AI13>

4.9   Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at Altaf Hussain AS ynghylch Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol ar gyfer Pobl Ddall (RNIB) Cymru

4.9 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

</AI13>

<AI14>

4.10Ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd ar iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion yng Nghymru

4.10 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

</AI14>

<AI15>

4.11Llythyr at y Pwyllgor Busnes ynghylch amserlen pwyllgorau’r Chweched Senedd

4.11 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

</AI15>

<AI16>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a'r cyfarfod ar 7 Hydref

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI16>

<AI17>

6       COVID-19 a chraffu cyffredinol: Trafod y dystiolaeth

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidogion i fynd ar drywydd amryw faterion.

</AI17>

<AI18>

7       Blaenraglen waith

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer gweddill tymor yr hydref, a chytunodd i drafod y mater ymhellach yn ei gyfarfod ddydd Iau 7 Hydref.

</AI18>

<AI19>

8       Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal

8.1     Nododd y Pwyllgor fod y Cadeirydd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer adrodd tan ddydd Iau 11 Tachwedd.

8.2     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid perthnasol i geisio tystiolaeth ysgrifenedig ar faterion sy'n codi o'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

</AI19>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>